PERTHYN

gan John Meirion Rea

  • Gloria Arcerito

Item 1 of 9

Dydd Gwener Mai 2ail
10:00yb – 5:00yp
Dydd Sadwrn Mai 3ydd 10:00yb – 8:00yh

YMa Pontypridd

Er fy mod yn teimlo’n 100% Cymraeg, dwi wastad wedi bod yn ymwybodol o’m hachau Eidalaidd, gan fy mod yn cadw cyfenw Eidalaidd fel disgynnydd uniongyrchol i fy Hen Daid Emiddio Rea, y cyntaf i fudo yma, gyda fy Hen Nain Santa.

Teithiasant o fywyd tlawd yng nghefn gwlad Arpino, yn ardal Frosinone yn Ne'r Eidal, i Lundain i ddechrau, gan ymgartrefu yn Nhonypandy yng Nghymoedd De Cymru ar droad yr 20fed Ganrif.

Rwy'n chwilfrydig i ymchwilio i ba ddylanwad y mae'r mudo hwn wedi'i gael ac yn parhau i'w gael ar ein diwylliant. Gwyddom oll am y Bracchi’s; y caffis a’r parlyrau hufen iâ a ymledodd yng Nghymoedd Cymru ar ddiwedd y 19eg Ganrif a dechrau’r 20fed Ganrif, a’r llu a ddaeth yn wreiddiol o dref Bardi yng Ngogledd yr Eidal, sy’n adnabyddus iawn. Nid yw'n syndod bod y Amici Val Ceno Galles, yn dal i fynd yn gryf heddiw.

Ond beth am y teuluoedd o rannau eraill o’r Eidal rydyn ni’n gwybod llai amdanyn nhw, pwy oedden nhw, beth yw eu straeon, a beth yw lle fy nheulu yn yr hanes ehangach hwn? Rwyf wedi treulio'r wyth mis diwethaf yn cyfarfod ac yn siarad â'r rhai sy'n byw yn y gymuned unigryw hon, hefyd y rhai, fel fi, sy'n ddisgynyddion. Trwy gyfuno recordiadau gwreiddiol yn seiliedig ar adroddiadau uniongyrchol, gyda seinwedd haniaethol, cerddoriaeth a ffilm, dymunaf gyflwyno gwireddiad artistig, o’m taith i’r Campanilismo Eidalaidd Cymreig.

Mae fy nghyfarfyddiadau wedi codi awgrymwyd ystod o ddulliau, neu amleddau perthynol ac iaith, hunaniaeth a chymuned, a thrwy roi llais i’r Cymry alltud, hen a newydd, fy nymuniad yw cyflwyno’r ffilm sain ymdrochol fel profiad cymunedol; ochr yn ochr ag iteriad digidol o'r gwaith a fydd yn gweithredu fel etifeddiaeth. Rwy’n gweld hwn fel ‘heneb’ fodern, ond ar-lein yn hytrach nag yn gorfforol ac yn cynrychioli cymuned.

Roedd taith fy Hen Daid a Nain yn un hir; o dref Ganoloesol Arpino, gan werthu castanwydd a chwarae'r ‘barrel organ’ ar strydoedd Clerkenwell yn Llundain, cyn ymsefydlu yn Ne Cymru ac agor ei Bracchi cyntaf. Beth ddaeth ef, a'r ymfudwyr niferus o'r Eidal gyda hwy, sut y gwnaethant gynnal eu hunaniaeth unigryw ar ôl teithio mor bell, yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol?

Rwy’n gweld y daith hon fel ymgais i ddarganfod eu stori, a’r ‘rhan ohonof fi prin yn ei ‘nabod’.

www.johnmeirionrea.com

Mics ‘binaural’: clustffonau yn hanfodol ar gyfer profiad llawn

Y Teulu Rea

  • John Meirion Rea

    Cyfansoddwr ac artist sain yw John, wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae ei waith wedi ei wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a thirwedd Cymru ac mewn cysylltiadau a chydweithrediadau traws-ddiwyllianol. Ymateb i le, cymuned a chwilota arddull newydd rhyngddisgyblaethol o gyflwyno sy’n mynd â’i fryd. Ar ôl gadael Prifysgol Caerdydd gyda M.Mus. mewn cyfansoddi, o dan gyfarwyddyd Alun Hoddinott CBE. Ers hynny, mae John wedi gweithio fel cyfansoddwr llawrydd ar gyfer llwyfannau cyngerdd, theatr, a ffilm, tra’n dilyn ei ddiddordebau ei hun mewn gosodweithiau cerddorol, a chelfyddyd sain.

Item 1 of 2